Dyma Jade

"Roedd cryn dipyn o drawma nad oeddwn i wedi ei brosesu, ac roedd y Tramadol yn golygu nad oedd yn rhaid i mi wneud hynny. Roedd wedi fy merwino am rhy hir ac roeddwn yn gwybod bod angen cymorth arnaf."

Mae Jade, 28 oed, wedi llwyddo i oresgyn caethiwed dros 10 mlynedd i’r cyffur presgripsiwn, Tramadol.  Er iddi gael y cymorth cywir, mae wedi cwblhau’r cylch, ac erbyn hyn, mae’n sobor er pymtheg mis.  Pan oedd ei dibyniaeth at ei anterth, arferai lyncu 16 o dabledi y dydd, ac ym mis Hydref 2017, ceisiodd gyflawni hunanladdiad yn dilyn ffrae danbaid gyda’i mam, y mae hi’n ei galw “ei ffrind gorau a’i chymorth mwyaf”

Presgripsiwn Peryglus

Pan oedd Jade yn 18 oed, cafodd fastoidectomi, llawdriniaeth lle y caiff rhan o’r penglog dan y glust ei dorri allan er mwyn gwaredu celloedd aer heintiedig, ond bu cymhlethdodau a rhoddwyd presgripsiwn Tramadol i Jade, opiad cryf er mwyn trin poen difrifol.  Ni adolygwyd ei defnydd o’r cyffur mewn ffordd broffesiynol am sawl blynedd, a heb wybod hynny, roedd Jade yn ddifrifol gaeth iddo.

Yn 2017, bu Jade yn gweithio gyda meddyg teulu a oedd yn pryderu am ei phresgripsiwn er mwyn dechrau lleihau ei dos yn araf, ac roedd pethau’n edrych yn addawol ar y dechrau.  Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, fodd bynnag, gwelwyd iechyd meddwl Jade yn dirywio’n gyflym.  Gan gofio’r cyfnod hwn yn ei bywyd, dywedodd “Nid oeddwn yn teimlo fel fy hun o gwbl, roedd rhywbeth wedi newid.  Mae unrhyw un sy’n fy adnabod yn gweld pa mor agos yr wyf i Mam, ond y noson honno, chwalais y tŷ yn ddarnau a chydiais ynddi wrth ei gwddf.  Mae’n frawychus.  Pan fydd caethiwed yn cydio ynoch, mae fel pe baech chi fel person yn diflannu.  Yn nes ymlaen y noson honno, cymerais gorddos Tramadol, Pregablin a gwrth-iselydd arall nad ydw i’n gallu cofio ei enw.  Roeddwn i wedi llyncu 3000mg o dabledi gyda’i gilydd ac mae’n wyrth fy mod i wedi byw.’’

Trawma heb ei Brosesu

Aeth ymlaen “Roeddwn yn teimlo’n anobeithiol a dechreuais sylweddoli fy mod i wedi bod yn dibynnu ar Tramadol er mwyn cau allan atgofion poenus.  Gadawodd fy nhad pan oeddwn yn 6 a chollais fy unig frawd yn 9 oed, felly roedd cryn dipyn o drawma nad oeddwn i wedi ei brosesu, ac roedd y Tramadol yn golygu nad oedd yn rhaid i mi ei brosesu.  Roedd wedi fy merwino am rhy hir ac roeddwn yn gwybod bod angen cymorth arnaf.  Ar ôl cael fy anfon i’r ysbyty, bûm yn ddifrifol sâl am y bedair wythnos nesaf, ac yna, cefais fy nghyfeirio at Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent am driniaeth, ac o’r fan honno, dechreuodd pethau wella yn araf.’’

Mae ein prosiect GDAS yn darparu cymorth uniongyrchol i unigolion a theuluoedd sy’n cael anhawster gyda chyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl gwael.  Mae’r gwasanaeth yn cynorthwyo tua 1200 o bobl ar draws Gwent.

Ar y trywydd iawn unwaith eto

Mae Jade wedi bod yn cael y therapi amnewidion opiad Buprenorhphine bob wythnos ers bron i 2 flynedd.

Ychwanegodd Jade:  ‘‘Rydw i’n teimlo bod fy mywyd ar y trywydd iawn unwaith eto, ac nid ydw i wedi atglafychu o gwbl ers i mi ddechrau cymryd Buprenorphine.  Bellach, rydw i wrth y llyw ac mae fy ngweithiwr allweddol, Helen, wedi fy helpu i roi fy mywyd yn ôl at ei gilydd.  Am amser hir, roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy symud o un man i’r llall, cyfarfûm â nifer o weithwyr proffesiynol ond ni fu digon o gysondeb.  Er mwyn gwella go iawn, credaf bod angen hynny arnoch, rhywun y gallwch ymddiried ynddynt a dibynnu arnynt i’ch tywys trwy adferiad.  Bellach, rydw i’n teimlo’n obeithiol am y dyfodol.”