Dod o hyd i wasanaeth:
Mae Cyfle Cymru yn darparu’r cymorth y mae ei angen arnoch er mwyn dod o hyd i’r swydd, y cyfle hyfforddiant neu’r cymwysterau cywir.
Mae’r prosiect yn cynnig:
- Arweiniad un-i-un gan fentor cymheiriaid sy’n gallu manteisio ar eu profiad nhw o gamddefnyddio sylweddau, adfer a/neu gyflyrau iechyd meddwl
- Cymorth cyflogaeth arbenigol, gan gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli, a help a chyngor ynghylch sut i chwilio am swyddi ac ymgeisio amdanynt
- Cymorth parhaus wrth i chi gychwyn ar gyfleoedd a hyfforddiant neu addysg er mwyn eich helpu i setlo
Rydym yn cydweithio’n agos gyda chyflogwyr mawr er mwyn sicrhau bod gennym y cysylltiadau y bydd eu hangen arnoch er mwyn sicrhau swydd newydd gwerth chweil.
Pwy ydym yn eu cynorthwyo?
Gallwn eich helpu chi i sicrhau gwaith os ydych chi:
- rhwng 16 a 24 oed a heb fod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
- yn 25 oed neu’n hŷn ac wedi bod yn ddi-waith neu’n economaidd anweithgar am gyfnod hir
- yn byw yn ardal Powys
- yn adfer ar ôl camddefnyddio sylweddau a/neu ddioddef problemau iechyd meddwl
Mae Cyfle Cymru yn gweithredu yn ardal Dyfed, Gogledd Cymru a Bae’r Gorllewin hefyd. Gallwch ddysgu mwy yma.