Stories

Dyma Kathleen

"Byddwn i'n dweud wrth unrhyw un sy'n cael anhawster gyda'u defnydd o alcohol i ganolbwyntio ar y pethau gwych yn eu bywyd.”

Roedd Kathleen o Gasnewydd wastad wedi mwynhau diod, ond bu ar lethr llithrig yn ystod y cyfnod clo, lle y treuliodd gyfnod yn yr ysbyty ac ni allai gerdded. Bellach, nid yw Kathleen wedi cael alcohol er pedwar mis ac mae'n bwrw golwg yn ôl dros flwyddyn hynod o heriol.

Darllen Stori

Dyma Cullan

“Penderfynais droi at heroin er mwyn ymdopi ag OCD – rydw i'n dymuno helpu eraill nawr”

Cychwynnodd ar driniaeth amnewidion opiadau newydd o'r enw Buvidal ac erbyn hyn, nid yw wedi cael heroin er wyth mis. Ers hynny, mae wedi lansio podlediad The Central Club er mwyn helpu eraill i oresgyn adfyd.

Darllen Stori

Dyma Alex

"Roedd y gweithdai cyflogadwyedd yn canolbwyntio ar feddwl mewn ffordd gadarnhaol a llwyddais i oresgyn rhai credoau cyfyngol am yr hyn y gallwn ei wneud."

Llwyddodd i sicrhau cyflogaeth ar gyflog gyda chymorth Cyfle Cymru, dair wythnos cyn i'r cyfnod clo droi bywyd gwaith ar ei ben.

Darllen Stori

Dyma Jade

"Roedd cryn dipyn o drawma nad oeddwn i wedi ei brosesu, ac roedd y Tramadol yn golygu nad oedd yn rhaid i mi wneud hynny. Roedd wedi fy merwino am rhy hir ac roeddwn yn gwybod bod angen cymorth arnaf."

Mae Jade, 28 oed, wedi llwyddo i oresgyn caethiwed dros 10 mlynedd i'r cyffur presgripsiwn, Tramadol. Er iddi gael y cymorth cywir, mae wedi cwblhau'r cylch, ac erbyn hyn, mae'n sobor er pymtheg mis.

Darllen Stori