Cyfle Cymru Powys

Dod o hyd i wasanaeth:

Mae Cyfle Cymru yn darparu’r cymorth y mae ei angen arnoch er mwyn dod o hyd i’r swydd, y cyfle hyfforddiant neu’r cymwysterau cywir.

Mae’r prosiect yn cynnig:

  • Arweiniad un-i-un gan fentor cymheiriaid sy’n gallu manteisio ar eu profiad nhw o gamddefnyddio sylweddau, adfer a/neu gyflyrau iechyd meddwl
  • Cymorth cyflogaeth arbenigol, gan gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli, a help a chyngor ynghylch sut i chwilio am swyddi ac ymgeisio amdanynt
  • Cymorth parhaus wrth i chi gychwyn ar gyfleoedd a hyfforddiant neu addysg er mwyn eich helpu i setlo

Rydym yn cydweithio’n agos gyda chyflogwyr mawr er mwyn sicrhau bod gennym y cysylltiadau y bydd eu hangen arnoch er mwyn sicrhau swydd newydd gwerth chweil.

Pwy ydym yn eu cynorthwyo?

Gallwn eich helpu chi i sicrhau gwaith os ydych chi:

  • rhwng 16 a 24 oed a heb fod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
  • yn 25 oed neu’n hŷn ac wedi bod yn ddi-waith neu’n economaidd anweithgar am gyfnod hir
  • yn byw yn ardal Powys
  • yn adfer ar ôl camddefnyddio sylweddau a/neu ddioddef problemau iechyd meddwl

 

Mae Cyfle Cymru yn gweithredu yn ardal Dyfed, Gogledd Cymru a Bae’r Gorllewin hefyd.  Gallwch ddysgu mwy yma.

01686 207 111