Dod o hyd i wasanaeth:
Trawsnewid bywydau gyda gofal preswyl
Canolfan Triniaeth Birchwood yw ein cyfleuster 20 gwely yn ardal Wirral, Glannau Mersi.
Gall cyfnod preswyl fod yn gyfle gwych i gael ychydig seibiant o ffordd o fyw ddi-drefn, torri patrymau dinistriol, gwneud newidiadau cadarnhaol a sicrhau adferiad parhaus.
Rydym wedi cofrestru gyda’r Comisiwn Ansawdd Gofal, a ni yw un o’r ychydig ganolfannau yn ardal y Gogledd Orllewin sy’n darparu triniaeth alcohol a chyffuriau a dadwenwyno i gleifion mewnol, a gaiff ei fonitro a’i reoli mewn ffordd feddygol.
Mae Birchwood yn gwella iechyd a lles emosiynol, ac mae’n sicrhau bod adferiad parhaus yn bosibl trwy:
- Ddatrys y ddibyniaeth gorfforol ar gyffuriau ac alcohol mewn ffordd ddwys
- Cynorthwyo teithiau adfer
- Gwella hunan-werth, gwerth, hyder a hunan-barch
- Gwella’r cyfleoedd i fanteisio ar ddysgu ac addysg
- Sicrhau bod cymheiriaid sydd wedi adfer yn fwy amlwg
- Creu uchelgais i sicrhau newid trwy gydgynhyrchu a chymorth gan gymheiriaid
- Darparu gweithgareddau cymdeithasol, diogel
- Rhoi pwyslais ar adfer wedi’i hunan-gyfeirio
- Hwyluso cyfarfodydd gyda theulu a gofalwyr er mwyn datrys gwrthdaro ac unrhyw gyfathrebu sydd wedi methu
- Cynnig cyngor ac arweiniad i deuluoedd a gofalwyr a’u cynnwys mewn cynlluniau ar gyfer y cyfnod ar ôl rhyddhau rhywun
Cyrhaeddais Birchwood mewn cyflwr ofnadwy. Bu’r staff a’r cleifion eraill yn anhygoel, roeddent wedi peri i mi deimlo’n ddiogel. Trwy gydol fy nghyfnod yma, buont oll yn gadarnhaol iawn gyda mi. Maent bellach wedi fy arwain i fan sy’n fy helpu gyda fy sobrwydd. Heb unrhyw amheuaeth, rwy’n ddyledus i’r staff yn Birchwood am fy mywyd.
Phillip Daniel R
0151 670 0033
https://www.birchwoodtreatment.com/