Dyma Cullan

“Penderfynais droi at heroin er mwyn ymdopi ag OCD – rydw i'n dymuno helpu eraill nawr”

Meddyliau Dinistriol

Roedd Cullan, 29 oed, wedi cael anhawster gydag OCD difrifol ers ei blentyndod, a threuliodd ei ugeiniau wedi’i ddal yng nghylch caethiwed a throseddu.

“Rydw i wedi colli degawd o’m bywyd wrth fod yn gaeth i heroin a chrac, a threulio cyfnodau yn y carchar. Roeddwn i wastad yn credu y byddwn yn marw’n ifanc, a phan fu farw ffrind agos i mi trwy gymryd gorddos y llynedd, dywedodd y llais hwnnw yn y fy mhen wrthyf bod yn rhaid i mi newid neu ni fyddwn i ar dir y byw am lawer mwy.

Roedd y rhan fwyaf o bobl wedi cael 2020 anodd iawn, ond gallaf ddweud yn ddiffuant mai hon fu blwyddyn orau fy mywyd.  Mae gen i gariad, cartref newydd.  Mae bywyd yn dda.  Roedd cymaint o bethau yr oeddwn yn dymuno eu cyflawni dros y ddegawd ddiwethaf, mynd ar wyliau gyda ffrindiau, ymweld â’m teulu yn America ac yng Ngroeg, ni fu modd i mi wneud unrhyw rai o’r pethau hyn.  Ond rydw i’n gwneud iawn am yr amser a gollais nawr.”

Amser am Newid

Bu Cullan yn rhan o beilot triniaeth glinigol Buvidal Kaleidoscope.  Mae hwn yn ddewis amgen cyfnod hir i fethadon, a bydd cleifion yn cael pigiad misol sy’n eu rhyddhau rhag gorfod mynychu canolfannau trin a fferyllfeydd yn ddyddiol, gan sicrhau mwy o amser i ganolbwyntio ar wella rhannau eraill o’u bywyd.

“Pan gefais fy rhuthro i’r ysbyty, dywedodd y meddygon wrthyf y gallwn i barhau i gymryd y methadon, ond roedd fy iechyd mor wael fel y byddai’n rhaid i mi ddod i mewn bob dydd, hyd yn oed ar benwythnosau.  Nid oeddwn yn credu y gallwn i wneud hynny.  Yn y lle cyntaf, roedd ofn arnaf gymryd Buvidal, roeddwn yn credu y byddwn yn clwcian, ond roeddwn i wedi difetha fy ysgyfaint ac ni allwn gadw i fynd fel hynny.  Roedd Buvidal wedi gweithio i mi ac rydw i wedi ail-gydio yn fy mywyd, nid yw’n ddatrysiad syml hudol ac ni fyddwn i fyth yn dweud y bydd yn gweithio i bawb.  Rhaid i chi fod yn barod oherwydd y mae’n newid popeth ac yn sydyn iawn, bydd eich meddwl yn glir.  Nid yw pawb yn barod am gael meddwl clir.”

Llais Trwy Adfyd

“Mae cymaint o bobl yn ei chael hi’n anodd, rydw i’n credu bod nifer fawr o bobl ifanc yn teimlo ar goll ac nid ydynt yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt.  Mae fy OCD yn peri i mi feddwl y bydd rhywbeth gwael yn digwydd i mi neu i un o’m hanwyliaid os na fyddaf yn cyflawni defodau penodol.  Am flynyddoedd, pan oeddwn yn tyfu i fyny, byddai’n rhaid i mi gael pedwar bath y dydd, brwsio fy nannedd 10 gwaith y dydd.  Collais nifer fawr o swyddi am fod yn hwyr oherwydd yr holl ddefodau y byddai’n rhaid i mi eu cwblhau cyn gadael y tŷ.

Ond arferwn ei guddio, ni fyddwn yn sôn wrth unrhyw un amdano, ac roedd y cyffuriau wedi helpu i gelu’r gofidiau hynny i mi.  Mae’n hawdd cael eich dal ar lethr llithrig.

Pan oeddwn yn fy arddegau, cwerylais gyda ffrind agos ac ymbellheais o’r criw cyfan.  Gan gymysgu gyda chriw newydd, euthum o ysmygu canabis i ffroeni cocên ar ddiwrnod cyflog, yna crac, ac yna heroin.  Dywedwyd wrthyf y bydden i’n iawn pe na byddem yn ei ysmygu am wythnos, na fyddai modd mynd yn gaeth iddo.

Nid ydw i’n rhoi’r bai ar unrhyw un dros fy nghyswllt i gyda chyffuriau, pan fyddwch chi’n rhan o’r sefyllfa, mae’n rhywbeth sy’n cael ei normaleiddio.  Ond er gwaethaf fy nghaethiwed, roeddwn i wastad yn mwynhau gwaith, rydw i wedi bod yn arweinydd tîm yn rhedeg bar, rydw i wedi trin gwallt, a gwneud pob math o bethau.”

Symud ymlaen

Bellach, mae Cullan yn barod am ei fenter nesaf, sef cychwyn podlediad wythnosol cyntaf Caerdydd, The Central Club, gyda dau ffrind o’i blentyndod.  Mae’n gobeithio y bydd hwn yn cynnig y nerth i bobl oresgyn sialensiau iechyd meddwl, caethiwed a chylchoedd dinistriol er mwyn eu galluogi i fyw bywyd gwell.

Roedd ei ffrind ers ei blentyndod, Luka, 21 oed, wedi cael anawsterau gydag iselder difrifol ac roedd yn aml yn teimlo fel cyflawni hunanladdiad, ac roedd Tom, 25 oed, myfyriwr graddau A a fagwyd ar yr un ystad ag ef ond a aeth ymlaen i sefydlu ei gadwyn ei hun o siopau barbwr, wedi tynnu Luka o’r man tywyll hwnnw.  Cullan fydd y cyflwynydd, a bydd yn cyfweld gwesteion ac yn trafod materion gydag arwyr a gweithredwyr lleol i actorion a cherddorion.

Ers i ni rannu stori Cullan gyda Wales Online, rhannwyd ei stori yn rhyngwladol yn Epoch Times ac mae wedi bod ar y teledu.  Ymunodd Prif Weinidog Cymru â Cullan hyd yn oed fel gwestai ar ei bodlediad.

“Gall popeth newid mewn blwyddyn, felly ni ddylech chi fyth ddigalonni.”