Dod o hyd i wasanaeth:
Ardal(oedd): Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, a Wrecsam.
Credwn bod pawb yn haeddu’r cyfle i wella eu bywydau. Gall defnyddio cyffuriau ac alcohol arwain pobl i’r system cyfiawnder troseddol, ac rydym yn deall mai angen help llaw a chyfle i fyw bywyd gwell y mae ei angen ar nifer.
Dywedodd 91% o bobl a ymgysylltodd â Dechrau Newydd eu bod yn teimlo mwy o reolaeth dros eu bywyd a bod ganddynt ymdeimlad gwell o bwrpas.
Pwy fyddwn yn eu helpu?
Mae’r prosiect hwn yn gwasanaethu 6 sir Gogledd Cymru ac mae’n cynorthwyo pobl yn y system cyfiawnder ieuenctid. Rydym yn ymgysylltu gyda phobl er mwyn eu helpu i droseddu llai, gwella eu hiechyd a’u lles cymdeithasol a gwneud newidiadau cynaliadwy i’w ffordd o fyw.
Rydym yn cydweithio’n agos gyda darparwyr cymunedol er mwyn sicrhau trosglwyddiad gofal o wasanaethau carchar i driniaeth gymunedol a chymorth adfer ehangach.
Mae Dechrau Newydd yn darparu Therapi Amnewidion Opiadau (Methadon/Buprenorphine) am 12 wythnos ar ôl i bobl gael eu rhyddhau o’r carchar. Yn ogystal, gall unrhyw un a ddedfrydir i gael Gofynion Adsefydlu Cyffuriau fanteisio ar wasanaeth presgripsiynu cyflym.
Mae’r prosiect yn cynnig
- Asesiad ac ymyriadau penodedig
- Cydlynu gofal
- Cynllun gofal adfer
- Gwasanaethau Lleihau Niwed
- Gweithgareddau grŵp a chymorth ar y cyd i wella iechyd a lles
01492 556 776