Dyma Alex

"Roedd y gweithdai cyflogadwyedd yn canolbwyntio ar feddwl mewn ffordd gadarnhaol a llwyddais i oresgyn rhai credoau cyfyngol am yr hyn y gallwn ei wneud."

Llwyddodd dyn o Gasnewydd, yr oedd wedi bod heb waith am 20 mlynedd yn dilyn llawdriniaeth a newidiodd ei fywyd, sicrhau’r rôl perffaith er gwaethaf y pandemig.

Mae Alex, 46 oed, yn ymuno â’r Groes Goch Brydeinig fel gweinyddwr ar ôl cael cymorth gan Gyfle Cymru Gwent, gwasanaeth Kaleidoscope ar gyfer y rhai heb waith.  Ers cysylltu â’r rhaglen ym mis Rhagfyr, mae Alex wedi goresgyn y rhwystrau corfforol a meddyliol a oedd wedi golygu y bu hi mor heriol iddo sicrhau gwaith.

Llawdriniaeth a Newidiodd ei Fywyd

Roedd Alex wedi dioddef clefyd Crohn am y rhan fwyaf o’i blentyndod.  Roedd ei gyflwr mor ddifrifol fel y bu’n rhaid ei fwydo trwy drip mewnwythiennol.  Ef oedd un o’r cleifion cyntaf yn y DU i gael trawsblaniad peryglus pan oedd yn 35 oed.

Er gwaethaf y pandemig, mae Alex yn mwynhau cyfnod pontio esmwyth i fyd gwaith ac mae hyd yn oed wedi helpu i ddatrys sialensiau sy’n ymwneud â COVID19.  “Rydw i wedi ymuno â thîm hynod gefnogol, maen nhw wedi caniatáu i mi setlo ac nid oeddent yn disgwyl i mi wybod popeth yn syth.  Roedd hi’n amlwg y byddem oll yn gweithio gartref yn fuan, ac roedd gennyf rai pryderon fel aelod newydd o’r tîm, ond roeddent wedi cynnig tawelwch meddwl i mi ac mae wedi bod yn broses esmwyth ers hynny.  Mae’r gwaith wedi fy nghadw’n brysur a bob wythnos, rydw i wedi helpu i goladu presgripsiynau fferyllfa, y maent wedi cynyddu yn ystod y pandemig.”

Dechrau Newydd

Aeth ymlaen:  ‘‘I raddau helaeth, rydw i’n barod ar gyfer byd gwaith oherwydd fy mentoriaid Cyfle Cymru, a phan siaradais â nhw, roeddwn wir yn teimlo bod rhywun yn deall.

Roedd y gweithdai cyflogadwyedd wedi canolbwyntio ar feddwl cadarnhaol a llwyddais i oresgyn rhai credoau cyfyngol am yr hyn y gallwn i ei wneud.  Bu rhan fwyaf fy mhrofiad ym maes cymorth TG, ond mae eu hyfforddiant nhw wedi fy helpu i ystyried gwahanol ddewisiadau.

Pryd bynnag yr oeddwn wedi ceisio sicrhau cymorth cyflogaeth yn flaenorol, nid oeddwn yn teimlo bod unrhyw un wedi gwrando ar fy sialensiau unigryw i.  Roedd hi’n dorcalonnus pan fyddai swyddi a fyddai’n cynnwys y gofyniad i godi eitemau trwm a galwadau corfforol eraill yn cael eu hargymell, ond nid yw fy llawdriniaeth yn caniatáu i mi eu gwneud’’.

Rhoi rhywbeth yn ôl

Cyn derbyn ei swydd newydd, bu Alex yn gwirfoddoli yn ysbyty Addenbrooke, gan wneud teithiau dwy awr yn aml i gynnig tawelwch meddwl i gleifion yr oeddent yn aros am lawdriniaeth trawsblaniad, bod modd iddynt wella’n llwyr.  Bu’r egni hwn i helpu eraill yn fodd iddo gyfarfod ei wraig, Diana, ar ôl iddo gael cyswllt gydag elusen Multi Organ Transplant Support (MOTS), a sefydlwyd gan nith Diana er mwyn helpu oedolion sydd wedi cael y lawdriniaeth.

Mae Cyfle Cymru Gwent yn helpu pobl i feithrin hyder, ac mae’n cynnig cymorth i fanteisio ar hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith.  Mae’r fenter yn helpu pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddefnydd sylweddau a/neu gyflyrau iechyd meddwl i sicrhau’r sgiliau angenrheidiol er mwyn ymuno â byd gwaith.

A fyddai ychydig gymorth o fudd i chi?

  • Ffoniwch 01267 231 634
  • Anfonwch e-bost at ask@cyflecymru.com
  • Trowch yma am ragor o wybodaeth