Dod o hyd i wasanaeth:
Ardal(oedd): Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Casnewydd, Trefynwy
Mae GDAS yn darparu gwasanaethau defnyddio sylweddau i unrhyw un sy’n cael anhawster gyda’u defnydd o gyffuriau ac alcohol, eu hiechyd meddwl a’u datblygiad personol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, er mwyn cyflawni eu nodau a gwella eu hiechyd a’u lles cyffredinol.

Rydym yn rhoi ein cymuned wrth wraidd yr hyn a wnawn, gan greu cyfleoedd i gynnwys ein defnyddwyr gwasanaeth yn y broses o gynllunio, darparu ac adolygu ein gwasanaethau.
Pwy ydym yn eu helpu?
Rydym yn cynorthwyo pobl sy’n byw ar draws Gwent, ac mae hyn yn cynnwys teulu, ffrindiau, gofalwyr a phobl yn y system cyfiawnder troseddol.
Mae’r prosiect yn gweithredu o ganolfannau lleol ar draws Gwent, yn ogystal â gwasanaethau rhith helaeth.
Mae GDAS yn cynnig
- Therapi Amnewidion Opiadau
- Dadwenwyno rhag Alcohol yn y Cartref a phresgripsiynu er mwyn atal atglafychu
- Gwasanaethau Lleihau Niwed Clinigol
- Gwasanaethau adfer
- Gwasanaethau ar gyfer teulu a ffrindiau
- Gwasanaethau lleihau niwed, gan gynnwys cyfnewid nodwyddau, profion Hep C a hyfforddiant a chyflenwad Naloxone
- Cwnsela Therapiwtig
- Cyfeirio at driniaeth breswyl (Adsefydlu a Dadwenwyno)
- Cyfleoedd mentora cymheiriaid
- Cael cyswllt gyda’r broses o gynllunio, darparu ac adolygu ein gwasanaethau, ‘Dim amdanoch chi, heboch chi.’
Rydw i’n teimlo bod fy mywyd ar y trywydd iawn unwaith eto nawr, ac nid ydw i wedi dioddef unrhyw atglafychu ers i mi ddechrau cymryd Buprenorphine. Mae gennyf fwy o reolaeth ac mae fy ngweithiwr allweddol wedi fy helpu i roi pethau yn ôl at ei gilydd.
Jade, Cas-gwent
0333 999 3577
https://www.gdas.wales/