Dyma Kathleen
"Byddwn i'n dweud wrth unrhyw un sy'n cael anhawster gyda'u defnydd o alcohol i ganolbwyntio ar y pethau gwych yn eu bywyd.”
Gwelwyd nifer o bobl yn yfed mwy oherwydd amodau’r pandemig. Roedd 38% yn yfed ar fwy o ddiwrnodau nag arfer ac roedd 15% yn yfed ar eu pen eu hunain pan na fyddent yn arfer gwneud hynny fel arfer.
Roedd Kathleen o Gasnewydd wastad wedi mwynhau diod, ond bu ar lethr llithrig yn ystod y cyfnod clo, lle y treuliodd gyfnod yn yr ysbyty ac ni allai gerdded. Bellach, bedwar mis ers y tro diwethaf iddi gael alcohol, mae Kathleen yn bwrw golwg yn ôl ar flwyddyn hynod o heriol.
‘‘Rydw i’n falch i fod yn fyw. Yn wir, rydw i wedi cael dwy ddihangfa ffodus. Ar ôl treulio cyfnod yn yr ysbyty oherwydd alcohol, daliais y coronafeirws ar y ward. Mae hi wedi bod yn flwyddyn uffernol ond rydw i’n canolbwyntio ar yr holl bethau sydd gennyf i. Byddaf yn byw i weld fy nwy nith yn graddio nawr. Ychydig fisoedd yn ôl, nid oeddwn yn siŵr a fyddwn yn cyflawni hynny.”
Diflas ac ynysig
Gwelwyd yfed Kathleen yn mynd o ddrwg i waeth yn ystod y cyfnod clo. Roedd yr arfer o fwynhau gwin da gyda swper a mwynhau coctels gyda ffrindiau wedi gwaethygu, a phan oedd Kathy yn ei man tywyllaf, roedd hi’n yfed pedair potel o win a litr o fodca dros ddau ddiwrnod.
“Pan ddechreuodd y cyfnod clo, dechreuais gynnal rhai partïon coctel dros Zoom gyda ffrindiau, ac ar ôl ychydig, roeddwn yn yfed gwin gyda fy nghinio, nid gyda fy swper yn unig. Yn y diwedd, byddwn yn siopa ar-lein ac yn sylweddoli nad oeddwn i wedi prynu unrhyw beth ond alcohol. Roeddwn yn rhoi blaenoriaeth i alcohol dros fwyd, gan geisio argyhoeddi fy hun bod popeth dan reolaeth. Wrth edrych yn ôl, mae’n fy syfrdanu i. Dechreuodd pethau fynd yn draed moch ym mis Mehefin.”
Arferai Kathleen fod yn unigolyn cymdeithasol, ond dechreuodd wthio pobl i ffwrdd. Roedd y ffaith ei bod wedi’i hynysu wedi peri i’w defnydd o alcohol fod yn anos i’w weld. Yn ffodus, roedd ffrind penderfynol iawn wedi rhoi’r ysgogiad angenrheidiol i Kathy gael help.
“Daeth ben i’m fflat bythefnos cyn y Nadolig. Nid yw’n rhywun sy’n hoffi gwrthdaro, ond gwrthododd adael nes i mi fynd mewn ambiwlans. Erbyn hynny, roeddwn i’n sâl iawn ac roedd fy nghroen yn llwyd. Roeddwn i wedi bod yn chwydu am 10 diwrnod yn olynol, ond roeddwn wedi parhau i yfed trwy gydol fy salwch. Y peth nesaf ddigwyddodd oedd na allwn gerdded hyd yn oed. Rydw i wedi cael niwed hirdymor i’r nerfau ac rydw i’n cerdded gyda ffon nawr.”
Cael Help
Trosglwyddwyd Kathy i’r uned gastro yn Ysbyty Prifysgol Grange, lle y cafodd help gan arbenigwr afu.
‘‘Holodd yn ddiffwdan a oedd unrhyw beth yr oeddwn yn dymuno ei ddweud wrtho ac roeddwn yn gwybod yr hyn yr oedd angen i mi ei ddweud. Er clod iddo, hwn fu’r cyswllt a wnaeth fy nghymell i gyfaddef fy mod i’n alcoholig. Roedd gallu dweud hynny’n uchel o’r diwedd yn rhywbeth pwerus. O’r fan honno, bu modd i mi gael yr help a’r cymorth yr oedd ei angen arnaf. Syfrdanwyd fy ffrindiau agos pan glywont am fy mhrofiad, ond mae fy nheulu a’m ffrindiau wedi bod yn anhygoel.”
Ffoniodd Kathleen raglen Call You and Yours ar BBC Radio 4 er mwyn ateb y cwestiwn beth sydd wedi newid yn eich bywyd chi dros y flwyddyn ddiwethaf, yr hoffech ei gadw? Ei hateb hi oedd sobrwydd.
“Byddaf yn gweld eisiau alcohol, ond gwn na allaf fyth ddychwelyd ato nawr. Byddwn i’n dweud wrth unrhyw un sy’n cael anhawster gyda’u defnydd o alcohol i ganolbwyntio ar y pethau gwych yn eu bywyd ac i fod yn onest gyda’ch hun ac yn agored gydag eraill er mwyn i bethau allu gwella. Bu’n flwyddyn anodd i ni gyd, ac rydw i’n siŵr bod cymaint o bobl yn ei chael hi’n anodd, pobl y gallent fod yn ofni estyn allan oherwydd stigma.”
Mae Kathleen yn cael cymorth parhaus gan GDAS, ac mae’n gwneud yn wych wrth gynnal ei hadferiad. Os ydych chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod yn cael anhawster gydag alcohol, mae help a chymorth cyfrinachol ar gael, beth bynnag fo’ch amgylchiadau.