Am ddegawdau, mae Kaleidoscope wedi arwain y ffordd o ran gofal alcohol a chyffuriau arloesol. Lansiom gyfnewidfa nodwyddau gyntaf y DU ym 1986, a chyflwyno’r gwasanaeth dosbarthu methadon cyntaf. Mae datrysiadau lleihau niwed eraill yn cynnwys Profion Feirysau a Gludir yn y Gwaed, buprenorphine (Buvidal) i’w chwistrellu ac sy’n gweithio dros gyfnod hir, a Peer2Peer Naloxone. Rydym yn hyderus yn ein gallu i ymateb i dueddiadau sy’n ymddangos, herio’r sefyllfa bresennol a darparu gwasanaethau o ansawdd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Rydym yn chwilio am ffyrdd o wella o hyd, a chredwn bod y syniadau gorau yn dod o’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau ac sy’n gweithio gyda ni.
Rydym hefyd yn croesawu cyfathrebu gan ymchwilwyr academaidd er mwyn cydweithio ar geisiadau am grantiau ymchwil iechyd. Mae gan ein cleientiaid a’n cydweithwyr nifer o syniadau gwych y byddai o fudd iddynt gael persbectif academaidd.
Os hoffech gael sgwrs am syniadau ar gyfer yr alwad cystadleuaeth ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar – ESRC Connect Awards (peilot), anfonwch e-bost at innovation@kaleidoscope68.org
Mae ein meysydd diddordeb yn cynnwys:
- Lleihau niwed
- Triniaethau cyffuriau ac alcohol
- Dibyniaeth ar sylweddau anghyfreithlon
- Gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar adfer ar gyfer lleoliadau cyfiawnder troseddol a chymunedol
- Darpariaeth gan gymheiriaid a chydgynhyrchu

Yn 2024 sefydlom adran RDI Kaleidoscope, dan arweiniad Ruth Bowley, ymchwilydd academaidd, sy’n dwyn profiad helaeth ym maes datrys problemau a dulliau arbrofol o’i gwaith ym maes ffiseg a gwyddor deunyddiau.
A fyddech gystal ag anfon eich syniadau at innovation@kaleidoscope68.org neu ffonio 07484 491678