Rhyw, cyffuriau ac aflonyddwch cymdeithasol

Mae ein stori yn cychwyn yn Kingston upon Thames.  Mae’n 1968 ac mae cyffuriau a rhyw yn ffasiynol iawn.  Arferai tafarndai gau eu drysau am 11pm, byddai aflonyddwch yn y strydoedd a byddai ysgarmesoedd mawr yn datblygu.  Roedd angen lle diogel i bobl ifanc Kingston ymgynnull.

Y lle hwnnw fyddai Kaleidoscope, a sefydlwyd mewn eglwys drefol.  Roedd yr enw yn adlewyrchu’r darnau drylliog o ddiwylliant ieuenctid yn dod ynghyd, boed yn fods, rocers, tedi bois, hipis neu Angylion Uffern – roedd croeso i bawb yn Kaleidoscope.

Cenhadaeth i ddiogelu pobl ifanc

Cenhadaeth Kaleidoscope oedd diogelu pobl.  Dechreuom drefnu clinig ar gyfer y rhai y byddent yn ymweld â’r clwb.  Cynhaliwyd y clinig yn swyddfa’r Gweinidog, lle y rhoddwyd triniaeth a chyngor heb farnu.

Daeth y gwasanaethau yn fwyfwy poblogaidd, a dechreuom gynnig gwasanaethau i’r gymuned ehangach, nad oedd nifer ohonynt yn aelodau o’r clwb, a bu hyn yn ddadleuol.  Erbyn 1975, dyluniwyd adeilad newydd ac ym 1977, agorwyd yr eglwys, yr hostel a’r clwb brics coch.

O flaen ei amser

Fel gwasanaeth cyffuriau, roedd Kaleidoscope yn torri tir newydd, wrth iddo fabwysiadu dull Lleihau Niwed yn ei waith.  Rhoddwyd Methadon er mwyn i bobl allu sefydlogi eu defnydd o gyffuriau.  Gan fod ar flaen y gad bob tro, cyflwynodd Kaleidoscope y rhaglen cyfnewid nodwyddau gyntaf yn y DU ym 1986, a datblygu’r gwasanaeth rhoi methadon cyntaf.  Roedd ein ffordd ni o weithio yn gwaredu rhestrau aros, ac roedd pobl yn cael yr help yr oeddent yn ei haeddu yn gyflym.

Gwelwyd dylanwad Kaleidoscope yn ymestyn i wledydd tramor, ac yn ystod y 90au, buom yn cefnogi gwasanaethau cyffuriau a ddaeth i’r amlwg yng Nghanol a Dwyrain Ewrop, yn ogystal ag Asia.  Bu ein gwaith yn India a Nepal yn allweddol, wrth sefydlu’r rhaglen cyfnewid nodwyddau gyntaf yn Calcutta, a gwasanaeth rhoi methadon yn Kathmandu.

Gwelwyd y mileniwm yn dwyn newid dramatig arall i Kaleidoscope.  Yn 2002, gofynnwyd i ni gychwyn gwasanaeth newydd yng Nghasnewydd, a daeth hwn yn gartref newydd i ni.  Bu’r gwasanaeth yn cynorthwyo pobl ar draws Gwent, a chyn pen 3 mis yn unig, roedd 100 o bobl yn cael triniaeth.  Mewn blwyddyn, gwelwyd y rhif hwn yn codi i 500.

Oes newydd, heb anghofio’r gorffennol

Ers symud i Gymru, rydym wedi datblygu i fod yn ddarparwr pwysig gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, ac rydym yn cynnal prosiectau ar draws y wlad, yn ogystal â’n huned dadwenwyno sy’n cynnwys 20 gwely i gleifion mewnol yn ardal Wirral.

Bellach, mae ein tîm o staff yn cynnwys 240 o bobl, ac rydym yn cynorthwyo dros 10,000 o bobl y flwyddyn.

Ni yw un o’r ychydig Sefydliadau dielw sy’n weddill ac sy’n parhau i fod yn sefydliad teuluol, gan mai ein Prif Swyddog Gweithredol, Martin Blakebrough, yw mab sylfaenydd Kaleidoscope, Eric Blakebrough.