Rydym yn croesawu trefniadau cydweithio ar waith ymchwil gydag academyddion, ymarferwyr, pobl sydd â phrofiad uniongyrchol, cyllidwyr a sefydliadau partner sy’n rhannu ein gwerthoedd.
Mae gennym ddiddordeb mewn partneriaethau sy’n foesegol, yn gynhwysol ac yn seiliedig ar gael effaith yn y byd go iawn. Disgwylir i bob trefniant cydweithio fodloni safonau priodol ynghylch llywodraethu, moeseg, diogelu a diogelu data.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwaith ymchwil, gwerthuso, prosiectau peilot, lleoliadau myfyrwyr neu arloesi yn seiliedig ar drefniant cydgynhyrchu, hoffem glywed gennych.
Cysylltwch i archwilio sut y gallem gydweithio.
Yn Kaleidoscope, mae ymchwil ac arloesi yn ymwneud â dysgu am yr hyn sydd wirioneddol yn helpu pobl – a defnyddio’r dysgu hwnnw i wella gwasanaethau, dylanwadu ar systemau, a lleihau niwed. Bydd ein holl brosiectau ymchwil yn cynnwys ein tîm cydgynhyrchu.
Mae ein dull gweithredu yn seiliedig ar gydgynhyrchu, lleihau niwed, ac arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae hyn yn golygu ein bod yn gweithio gyda phobl sydd â phrofiad uniongyrchol yn ystod pob cam o’n gwaith, o siapio cwestiynau i ddehongli canfyddiadau. Rydym yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol o’r byd go iawn, sy’n adlewyrchu cymhlethdod bywydau pobl.
Mae gennym ddiddordeb mewn gwaith ymchwil:
- Sy’n gwella mynediad a dewis i bobl sy’n defnyddio sylweddau
- Sy’n ymateb i dueddiadau sy’n ymddangos ac angen na chaiff ei fodloni
- Sy’n herio stigma a dulliau sy’n cosbi
- Sy’n cynorthwyo gwasanaethau i fod yn fwy effeithiol a chynhwysol
Rydym yn cydnabod bod sawl ffurf i dystiolaeth. Law yn llaw â gwaith ymchwil academaidd, rydym yn gwerthfawrogi tystiolaeth sy’n seiliedig ar arfer, dirnadaeth ansoddol, a dysgu myfyriol o waith rheng flaen. Mae ein holl weithgarwch ymchwil yn seiliedig ar ymrwymiad i wneud gwaith gyda phobl, nid arnynt.
Ym mis Ebrill 2024, rhoddodd yr Athrofa Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd gyngor gwych ynghylch cydgynhyrchu mewn gwaith ymchwil –
NIHR Guidance on co-producing a research project
- Cychwyn gyda’ch gilydd o’r dechrau
Nid yw cydgynhyrchu yn rhywbeth y byddwch yn ei ychwanegu yn nes ymlaen. Dylai pobl sydd â phrofiad uniongyrchol fod yn rhan o’r peth o’r cychwyn cyntaf – yn siapio’r cwestiynau, nid yn ymateb iddynt yn unig. - Rhannu grym, nid y tasgau yn unig
Dylech anelu i rannu’r gwaith o wneud penderfyniadau trwy gydol y prosiect. Mae hyn yn golygu bod yn onest am y ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud, a gweithio i leihau anghydbwysedd o ran grym. - Gwerthfawrogi gwahanol fathau o wybodaeth mewn ffordd gyfartal
Mae profiad ymarferol, arfer proffesiynol a gwybodaeth academaidd yn bwysig. Dylech eu trin fel pethau gwahanol ond yr un mor bwysig, nid fel hierarchiaeth. - Byddwch yn glir am rolau, disgwyliadau a therfynau
Dylech gytuno ar rôl pawb yn gynnar, y dylanwad sydd ganddynt, a pha gymorth sydd ar gael. Mae’r eglurder hwn yn helpu i osgoi rhwystredigaeth yn nes ymlaen. - Dylech feithrin perthnasoedd, nid prosiectau yn unig
Mae ymddiriedaeth yn cymryd amser. Dylech fuddsoddi mewn perthnasoedd, gan ganiatáu lle i fyfyrio, a chydnabod bod partneriaethau cryf yn rhan ganolog o gydgynhyrchu da. - Sicrhewch bod y cyswllt yn ystyrlon ac yn hygyrch
Dylech greu ffyrdd i bobl gyfrannu sydd wirioneddol yn gweithio iddynt – o ran amser, iaith, hyder, anghenion mynediad, ac amgylchiadau bywyd. - Dylech sicrhau cydgyfnewidioldeb – dylai pawb gael rhyw fudd
Dylai cydgynhyrchu gynnig budd i bawb dan sylw. Gallai hyn fod yn daliad, sgiliau, hyder, dysgu, neu deimlo eu bod yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi. - Byddwch yn hyblyg ac yn fodlon addasu
Anaml y bydd ymchwil cydgynhyrchu yn rhywbeth llinol. Byddwch yn agored i gynlluniau, dulliau neu flaenoriaethau sy’n newid wrth bod dysgu yn dod i’r amlwg. - Dylech greu lle ar gyfer gweithgarwch myfyrio a deialog barhaus
Mae sgyrsiau rheolaidd am y ffordd y mae’r tîm yn cydweithio yn helpu i ddod â materion i’r amlwg yn gynnar, gan gryfhau cydweithio gydag amser. - Dylech werthfawrogi a gwerthuso effaith cydgynhyrchu
Peidiwch â mesur canlyniadau ymchwil yn unig – ewch ati i fyfyrio am y ffordd yr oedd cydgynhyrchu wedi newid y prosiect, y bobl dan sylw, a’r wybodaeth a luniwyd.
Mae ein Sefydliad Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yn cynorthwyo portffolio eang o waith ymchwil sy’n cynnwys ystod eang o waith ymchwil ynghylch caethiwed a phrosiect gwella gwasanaeth. Rydym yn dymuno i’r gwaith ymchwil hwn fod yn sylfaen ar gyfer trosi darganfyddiadau yn ffyrdd newydd a gwell o drin a lleihau niwed caethiwed.
Mae gan y pwyllgor gylch gwaith eang sy’n cynorthwyo ac sy’n ariannu gwaith ymchwil, yn rhannol ac yn llawn, sy’n rhychwantu gwahanol lefelau arloesi. Rydym yn gweithio ar waith ymchwil rhyngddisgyblaethol sy’n ceisio creu neu ddefnyddio technolegau a methodolegau newydd.
Rydym hefyd yn croesawu ymchwiliadau i bob math o gaethiwed i sylweddau ac mae gennym ddiddordeb penodol mewn cynigion sy’n rhoi sylw i feysydd lle gwelir angen heb ei fodloni.
- Astudiaethau academaidd
- Lleoliadau myfyrwyr
- Sefydliadau partner
- Prosiectau grant
- A mwy!
- Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaeth
Bydd yr holl brosiectau ymchwil a gyflawnir gan Kaleidoscope yn cynnwys pobl sy’n manteisio ar ein gwasanaethau. Gallai hyn gynnwys dylunio a chynllunio i weithredu a lledaenu. Mae eu profiad uniongyrchol nhw yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ymchwil yn berthnasol, yn barchus ac yn cael effaith. - Gofyniad Adolygiad Moesegol
Rhaid i bob prosiect ymchwil gynnwys adolygiad moeseg cyn iddo gychwyn. Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys ystyriaeth o safonau cyfreithiol a rheoliadol, gofynion ynghylch diogelu data, ac egwyddorion tegwch ac uniondeb. Ni fydd unrhyw brosiect yn symud yn ei flaen heb sicrhau cymeradwyaeth foesegol wedi’i chofnodi.