Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent

Dod o hyd i wasanaeth:

Ardal(oedd):  Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Casnewydd, Trefynwy

Mae GDAS yn darparu gwasanaethau defnyddio sylweddau i unrhyw un sy’n cael anhawster gyda’u defnydd o gyffuriau ac alcohol, eu hiechyd meddwl a’u datblygiad personol.  Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, er mwyn cyflawni eu nodau a gwella eu hiechyd a’u lles cyffredinol.

Mae GDAS yn darparu gwasanaethau defnyddio sylweddau i unrhyw un sy’n cael anhawster gyda’u defnydd o gyffuriau ac alcohol, eu hiechyd meddwl a’u datblygiad personol.  Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, er mwyn cyflawni eu nodau a gwella eu hiechyd a’u lles cyffredinol.

Rydym yn rhoi ein cymuned wrth wraidd yr hyn a wnawn, gan greu cyfleoedd i gynnwys ein defnyddwyr gwasanaeth yn y broses o gynllunio, darparu ac adolygu ein gwasanaethau.

Pwy ydym yn eu helpu?

Rydym yn cynorthwyo pobl sy’n byw ar draws Gwent, ac mae hyn yn cynnwys teulu, ffrindiau, gofalwyr a phobl yn y system cyfiawnder troseddol.

Mae’r prosiect yn gweithredu o ganolfannau lleol ar draws Gwent, yn ogystal â gwasanaethau rhith helaeth.

Mae GDAS yn cynnig

  • Therapi Amnewidion Opiadau
  • Dadwenwyno rhag Alcohol yn y Cartref a phresgripsiynu er mwyn atal atglafychu
  • Gwasanaethau Lleihau Niwed Clinigol
  • Gwasanaethau adfer
  • Gwasanaethau ar gyfer teulu a ffrindiau
  • Gwasanaethau lleihau niwed, gan gynnwys cyfnewid nodwyddau, profion Hep C a hyfforddiant a chyflenwad Naloxone
  • Cwnsela Therapiwtig
  • Cyfeirio at driniaeth breswyl (Adsefydlu a Dadwenwyno)
  • Cyfleoedd mentora cymheiriaid
  • Cael cyswllt gyda’r broses o gynllunio, darparu ac adolygu ein gwasanaethau, ‘Dim amdanoch chi, heboch chi.’

Rydw i’n teimlo bod fy mywyd ar y trywydd iawn unwaith eto nawr, ac nid ydw i wedi dioddef unrhyw atglafychu ers i mi ddechrau cymryd Buprenorphine.  Mae gennyf fwy o reolaeth ac mae fy ngweithiwr allweddol wedi fy helpu i roi pethau yn ôl at ei gilydd.

Jade, Cas-gwent

0333 999 3577

https://www.gdas.wales/