Mae angen Diwygio Cyfraith Gyffuriau ar fyrder wrth i nifer y marwolaethau a achosir gan gyffuriau gyrraedd lefel uwch nag a welwyd erioed o'r blaen
03/08/2021
Mae'n dorcalonnus i Kaleidoscope weld cynnydd arall eto yn nifer y marwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru a Lloegr, marwolaethau y byddai wedi bod modd eu hosgoi, ac mae hyn yn dystiolaeth o'r ffaith nad yw polisïau cyffuriau presennol yn gweithio.
- Gwelwyd Marwolaethau gan Opioidau yn codi 4.8%
- Gwelwyd Marwolaethau gan Gocên yn codi 9.7%
- Gwelwyd marwolaethau gan Benzo yn codi 19.3%
Mae canfyddiadau’r adroddiad yn drychinebus. Os oes modd cael unrhyw obaith, hwnnw yw’r ffaith bod Cymru wedi cofnodi ei nifer isaf o farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau yn 2020 er 2014. Roedd cyfradd y marwolaethau fesul miliwn o bobl yng Nghymru yn is nag yr oedd yn Lloegr hefyd, sef 51.1 a 52.1 o farwolaethau. Cyfeiriodd yr adroddiad at ostyngiad o 9.1% hefyd o’i chymharu â’r gyfradd yn 2019 (56.2 marwolaeth fesul miliwn).
Mae’n werth amlygu’r ffigurau hyn, gan bod Cymru wedi dechrau’r ddegawd gyda chyfradd marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau a oedd yn uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr, fodd bynnag, mae llawer i’w wneud o hyd os ydym yn mynd i weld gostyngiad go iawn yn nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau.
Nid yw Cymru wedi dioddef y toriadau i’r gyllideb ar gyfer gwasanaethau alcohol a chyffuriau a welwyd yn Lloegr, a gwelwyd gweithgarwch gwell i gydlynu’r gwasanaethau o’r canol. Yng Nghymru, ystyrir defnyddio cyffuriau fel mater iechyd yn bennaf, ond rydym yn cael ein rhwystro o hyd gan nifer o bolisïau’r Swyddfa Gartref a weithredir gan y System Cyfiawnder Troseddol, ac mae hyn yn amharu ar ein dull gweithredu.
Mae polisïau’r Swyddfa Gartref yn ein hatal rhag sefydlu mannau mwy diogel i chwistrellu, ac maent yn caniatáu carcharu nifer o ddefnyddwyr cyffuriau sy’n bodloni proffil cymhlethdod a sefyllfa agored i niwed go iawn. Gadewir i garcharorion sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol waethygu yn y carchar. Mae ffigurau heddiw yn cyfleu neges amlwg iawn, pan na fydd unrhyw beth yn newid, ni fydd unrhyw beth yn newid.
Credaf bod cyflwyno Naloxone sy’n dadwneud effeithiau gorddos yn dechrau gwneud gwahaniaeth, nid y lleiaf oherwydd bod pobl sy’n defnyddio cyffuriau yn ganolog i’w ddarpariaeth, gan ddosbarthu’r pecynnau trwy rwydweithiau cymheiriaid. Yn ystod ein Peilot Naloxone Cymheiriaid i Gymheiriaid, a gydgynhyrchwyd gyda Llywodraeth Cymru, gwelwyd y tîm cymheiriaid yn dosbarthu 237 o becynnau achub bywydau i’r rhai y mae eu hangen arnynt fwyaf. Mae hyn yn golygu bod 237 yn fwy o bobl ar strydoedd Casnewydd sydd wedi cael hyfforddiant ynghylch dadwneud gorddos, ac mae ganddynt becyn i’w ddefnyddio. Y targed ar gyfer y peilot oedd 60, ond roedd y grŵp wedi darparu pedair gwaith gymaint mewn dau fis yn unig.
Rydym wedi bod ar flaen y gad yng Nghymru hefyd wrth gyflwyno triniaeth newydd Buvidal, therapi amnewidion opiadau a gaiff ei chwistrellu unwaith y mis. Mae hyn yn rhyddhau amser ein cleifion i ganolbwyntio ar wella rhannau eraill o’u bywyd megis sicrhau cyflogaeth a rhywle i fyw. Mae’r feddyginiaeth hon yn offeryn arall yn ein blwch offer triniaethau, diolch i arweinyddiaeth ar lefel y Llywodraeth a hyblygrwydd asiantaethau presgripsiynu megis Kaleidoscope a’n partneriaid GIG yng Ngwent ac yng Nghaerdydd.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i fuddsoddi yn y sector hwn, gan archwilio ymyriadau newydd er mwyn atal marwolaethau gan gyffuriau, y gellid fod wedi eu hosgoi. Mae rhaglenni cyfnewid nodwyddau Cymru wedi achub nifer o fywydau a gweithredu fel porth er mwyn i bobl fanteisio ar driniaeth. Credwn y gallai trefnu bod pibellau crac ar gael, fel mesur lleihau niwed pellach, gael effaith debyg. Gadewch i ni wneud pobl yn fwy diogel wrth sicrhau bod gwasanaethau yn fwy hygyrch.
Rydym yn croesawu adolygiad Llywodraeth Cymru hefyd o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a defnyddio sylweddau sy’n cyd-ddigwydd, a chredwn bod dull holistig yn hanfodol. Mae gofal cofleidiol gan wasanaethau tai, iechyd meddwl a defnyddio sylweddau yn hanfodol.
I Loegr, roedd rhyddhau Adolygiad Bonesig Carol Black am Gyffuriau yn cynnwys rhai datrysiadau i’w croesawu. Mae’r adroddiad yn cydnabod bod y system trin cyffuriau heb gael buddsoddiad, ac mae’n cynnig y dylid codi swm y gwariant yn Lloegr i £552 miliwn ar ôl 5 mlynedd. Mae Bonesig Carol yn amcangyfrif yr arbedir bum gwaith y swm hwn, ar ffurf atal troseddu a gwella canlyniadau iechyd a chanlyniadau cymdeithasol. Nid oedd diwygio deddfwriaethol yn rhan o hwn, fodd bynnag, felly roedd cwmpas yr adroddiad yn gyfyngedig.
Yn y pen draw, mae angen gobaith ar bawb. Mae lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig gyda defnyddio cyffuriau yn hollbwysig, ac mae’n dechrau gyda’r ddealltwriaeth bod y rhai sy’n dioddef oherwydd defnyddio cyffuriau yn aml wedi dioddef trawma sylweddol. Maent yn haeddu cael gwasanaethau cynhwysol sy’n rhoi sylw i drawma, cymorth gyda thai, sy’n cynnig y cymorth meddygol cywir ac sy’n gwneud hyfforddiant a chyflogaeth yn hygyrch.
ADRODDIAD ONS LLAWN YMA
Gweld y sylw gan Kaleidoscope yn The National
Rhannu