Mae Gwirfoddolwyr Cymheiriaid yn achub bywydau ar draws Casnewydd

08/07/2021

Mewn peilot cyntaf o'i fath yng Nghymru, mae Naloxone, gwrthgyffur sy'n gallu achub bywydau a dadwneud effeithiau gorddos opiadau, yn cael ei roi i'r rhai mewn perygl gan bobl y mae ganddynt brofiad o gaethiwed.

Mae’n bosibl bod gwirfoddolwyr cymheiriaid GDAS wedi achub bron i 40 o fywydau yng Nghasnewydd, diolch i gynllun peilot a gyflwynir mewn ardaloedd eraill yng Nghymru cyn bo hir.  Mae’r tîm yn hyfforddi eraill ynghylch sut i ddefnyddio Naloxone.  Hyd yn hyn, fe’i ddefnyddiwyd 37 gwaith.

Mae Leighton yn un o’r gwirfoddolwyr hynny ac mae’n patrolio’r strydoedd gyda’r cyffur sy’n gallu achub bywydau nawr.  Diolch i’w ymroddiad ef i’r achos, mae eisoes wedi achub pum bywyd.  Mae defnyddio hyfforddiant gan y rhai sy’n adfer yn dilyn caethiwed yn rhan hanfodol o’r peilot ac mae ei brofiad ef yn golygu ei fod yn deall yr hyn y mae pobl sy’n defnyddio cyffuriau yn ei wynebu.

“Dechreuais wirfoddoli er mwyn ceisio helpu fy adferiad i,” dywedodd. Rydw i’n gwybod pwysigrwydd bod yng nghwmni pobl arall sy’n adfer. Mae’r peilot hwn wedi rhoi rhywbeth i mi ei wneud, sy’n helpu fy nghymuned.”

Beth yw Naloxone a sut mae’n gweithio?

Mae Naloxone yn feddyginiaeth sy’n atal effeithiau cyffuriau opiadau megis Heroin neu Fethadon am gyfnod.  Mae modd ei roi mewn chwistrelliad er mwyn dadwneud effeithiau gorddos opiadau, gan roi mwy o amser i ffonio am ambiwlans a rhoi triniaeth.

Ariannwyd y peilot wyth wythnos gan Lywodraeth Cymru a bu Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS) yn hyfforddi pobl yn y gymuned ynghylch sut i ddefnyddio’r feddyginiaeth.  Yn ystod lansiad y peilot, ymunodd Heddlu Gwent a’r Dyn Naloxone gyda’r cymheiriaid i gyd-gynhyrchu’r fenter hon sy’n wirioneddol gydweithredol.

Dywedodd arweinydd y prosiect, Elwyn Thomas, gweithiwr Allgymorth Grymusol gyda GDAS, bod y peilot wedi rhagori ar y disgwyliadau.

Dywedodd:  “Ein targed oedd darparu Naloxone 60 gwaith er mwyn achub bywydau yn y gymuned gan gymheiriaid i hyfforddi pobl sy’n gallu hyfforddi eraill a chynnig yr ymyriad hwn.  Rydym wedi pedryblu’r hyn y dylem fod wedi’i ddarparu, gan ddarparu 237 ac yn y peilot hwnnw, rhoddwyd 37 o becynnau ail-lenwi.

“Mae hyn yn golygu y defnyddiwyd 37 o becynnau o bosibl.  37 o becynnau er mwyn dadwneud gorddos opiadau.”

Bellach, rydym wedi ymestyn y ddarpariaeth i siroedd eraill o gwmpas Casnewydd.

I Kim, gwirfoddolwr arall, mae ei gyflwyno ar draws Cymru yn hollbwysig.  Dywedodd:  “Pobl yw pobl sy’n dioddef caethiwed, pobl mewn poen ydynt.”

Fel Leighton, arweiniodd ei gwaith gwirfoddol at achub bywydau yn ei chymuned ond cyn ei hadferiad, roedd hi eisoes wedi defnyddio’r feddyginiaeth.

“Mae’n siŵr fy mod i wedi achub 6 neu 7 bywyd,” dywedodd.  “Roeddwn i wedi cymryd cyffuriau fy hun ar ambell un o’r troeon cyntaf, felly mae’n dod yn rhywbeth normal i chi, sy’n drist.”

Watch the complete ITV footage here.