Cyfleusterau Chwistrellu mwy Diogel |Yr Achos dros gael Model a Arweinir gan Gymheiriaid

22/10/2020

Mewn ymdrech i ostwng nifer y marwolaethau uwch nag y gwelwyd erioed o'r blaen oherwydd cyffuriau yn y DU, galwyd am gyflwyno cyfleusterau chwistrellu dan oruchwyliaeth (SIFs) dro ar ôl tro, ond a ydym yn agosach o gwbwl i'w sicrhau?

Mae Prif Swyddog Gweithredol Kaleidoscope, Martin Blakebrough, yn cyflwyno’r achos dros sefydlu SIF a arweinir gan gymheiriaid yng Nghymru, o ystyried y rhwystrau y mae modelau blaenorol wedi methu eu goresgyn, a pham y gallai model a gaiff ei lywio gan gymheiriaid ymgysylltu mewn ffordd well gyda phobl sy’n defnyddio cyffuriau, gan gynnig lle niwtral i drafod triniaeth a lleihau niwed i’r cyhoedd ar yr un pryd.  Yn bwysicaf oll, fodd bynnag, mae’n amlygu pam ei bod yn hollol bosibl mynd ati i weithredu’r model hwn nawr.

Nid yw SIF, a weithredir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn cotiau gwynion, wedi symud yn ei flaen hyd yn hyn, a byddwn i’n awgrymu bod ei wendid yn ymwneud â dwy elfen.  Ar un llaw, nid yw’n ddeniadol i’r gymuned y mae’n ceisio ei diogelu, ac ar y llaw arall, mae’n rhy gostus ac yn anodd ar lefel gyfreithiol i sicrhau momentwm gwleidyddol digonol.  Felly sut allwn ni baratoi’r ffordd ar gyfer gweithgarwch ymgysylltu dynamig yn well, gan barhau i fod yn realistig?  Credaf bod gan fodel a arweinir gan fentoriaid cymheiriaid, y telir cyflog iddynt, y potensial i gryfhau cysylltiadau rhwng defnyddwyr cyffuriau a’r sefydliadau iechyd y cyhoedd a’r trydydd sector sy’n eu cynorthwyo, ac nad oes angen i amgylchedd diogel a di-haint gostio ffortiwn.

Mae hwn yn fodel sy’n grymuso, nid yn un sy’n camfanteisio, a gallwn ddysgu cryn dipyn o rinwedd mentrau a gaiff eu llywio gan gymheiriaid.  Ar y llwyfan byd-eang, gallwn edrych ar y ffordd y mae dinasoedd eraill, Vancouver yn fwyaf penodol, wedi ymateb i’r model DCR hwn heb ganlyniadau negyddol penodol.  Ac yn agosach atom ni, gallwn weld sut y mae’r trefniant a arweinir gan  gymheiriaid i gyflwyno Naloxone, a hyrwyddwyd gan ‘Hyrwyddwyr Naloxone’ fel George Charlton, wedi bod mor llwyddiannus yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.  Rydw i’n rhagweld mai’r ymateb i beilot SIF anfeddygol fydd rhywfaint o wrthwynebu risg, fodd bynnag, rhaid i ni dderbyn nad yw pob ymgais glinigol i sefydlu SIF yn y DU wedi dwyn ffrwyth.  Mae’n frawychus gweld y bu 2,917 o farwolaethau a achoswyd gan gyffuriau anghyfreithlon yng Nghymru a Lloegr yn 2018 – cynnydd o 17% – felly rhaid i ni ystyried yr holl ddewisiadau ar sail yr hyn sydd fwyaf effeithiol er mwyn lleihau niwed

Mae cyfreithlondeb sefydlu SIF yn y DU wedi bod yn faen tramgwydd enfawr.  Credaf bod nifer o fodelau SIF yr ydym wedi eu gweld ar draws y byd yn cynnwys ffocws rhy glinigol, ac nid ydynt wedi cael eu creu ar y cyd â defnyddwyr gwasanaeth.  Mae nyrsys yn cynorthwyo rhywun i chwistrellu sylweddau y gallent fod yn beryglus i mewn i’w cyrff yn peri cryn broblemau, felly ni fyddai model a gaiff ei lywio gan gymheiriaid yn peryglu trwyddedau’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hynny.  Gyda’r cymorth cywir, gall mentoriaid cymheiriaid gynorthwyo pobl i chwistrellu mewn ffordd fwy diogel a chynnig cyngor iechyd dibynadwy.  Ni cheir fawr o amheuaeth nad yw llwyddiant Naloxone o ganlyniad i asiantaethau cyffuriau sefydledig yn unig, mae’n ymwneud â’r arloesi a’r angerdd yr ydym yn ei weld gan gymunedau cymheiriaid wrth ei ddosbarthu.  Credaf hefyd bod sefydlu trefniadau llywodraethu clir er mwyn diogelu’r mentoriaid cymheiriaid cyflogedig sydd eisoes yn gweithio o fewn asiantaethau fel Kaleidoscope yn rhywbeth y mae modd ei gyflawni heb os.  Os bydd rhywun yn cysylltu gydag asiantaethau a gomisiynwyd i ddarparu gwasanaethau cyffuriau, dylent fod yn gallu cynorthwyo llywodraethu clinigol hefyd, ac yn wir, cymorth clinigol ar gyfer unrhyw bryderon y gallai fod gan fentor cymheiriaid.

Un o’r materion hollbwysig er mwyn cychwyn dull gweithredu o’r fath yw llythyr cysur.  Er mwyn symud ymlaen gyda’r model hwn yng Nghymru, mae Kaleidoscope wedi sicrhau cefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Comisiynydd Troseddu, Arfon Jones, sy’n fodlon cyhoeddi llythyr cysur yn caniatáu i SIFs weithredu yng Ngogledd Cymru.  Gyda’r diogelwch cyfreithiol hwn, nod Kaleidoscope yw gweithio gyda gweithredwyr mentoriaid cymheiriaid i sefydlu peilot, un y gallwn ei efelychu yn nes ymlaen yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe.  Ardaloedd lle y gallwn symud ein timau yn y ffordd hawsaf gan sicrhau’r effaith gymunedol fwyaf.

Bydd diogelwch yn flaenoriaeth arwyddocaol, ac mewn dinasoedd lle y mae SIFs wedi bod yn effeithiol, bu partneriaeth gyda’r heddlu yn hanfodol.  Wrth ymweld ag SIF yn Hamburg, adroddodd gweithiwr cyffuriau rheng flaen Kaleidoscope, Elwyn Thomas, pe byddai’r heddlu yn cael eu galw i ddelio â digwyddiad, byddai’r cleient yn cael eu symud o’r safle gyda pharch ac mewn rhai achosion, yn cael eu gwahardd rhag defnyddio’r SIF hwnnw am 24 awr.  Bu staff SIF a’r heddlu lleol yn cydweithio gan ddilyn dull synnwyr cyffredin.  Yn Vancouver, mae tîm penodedig o swyddogion patrolio DCR yn gyfrifol am ddiogelwch ac ymateb i ddigwyddiadau, gyda chymorth ychwanegol tîm o weithwyr allgymorth, y mae eu rôl nhw yn ymwneud ag annog pobl agored i niwed yn y gymuned i ymweld â’r cyfleuster.  Mewn sawl ffordd, mae’r achos dros gael SIFs yn ddigon tebyg i ymateb y llywodraeth i waith rhyw, sef bod lleihau’r gweithgarwch dros ardal lai o faint yn cyfyngu ar niwed cymdeithasol ac yn caniatáu sefydliadau cyhoeddus ac o’r trydydd sector i ymgysylltu mewn ffordd well gyda’r gymuned honno a’u cadw’n ddiogel.

Martin Blakebrough

Prif Swyddog Gweithredol Kaleidoscope